Croeso i Gŵyl Bedwen Lyfrau 2009!

Mae Bedwen Lyfrau yn ŵyl lyfrau Gymraeg i'r teulu i gyd ac yn cael ei threfnu’n flynyddol gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Cynrychiola'r Cwlwm gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg ledled Cymru. Cafodd ei sefydlu yn 2002 er mwyn hyrwyddo a diogelu buddiannau'r aelodau. www.cwlwmcyhoeddwyr.com

Dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r Fedwen gael ei chynnal, ond y tro cyntaf iddi fwrw gwreiddiau yn Aberystwyth. Bydd yn defnyddio safle Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar nos Wener 1 Mai a Chanolfan Arad Goch ar ddydd Sadwrn 2 Mai (rhwng 10.00 a 5.00) i gynnal amrywiol weithgareddau.

Ar nos Wener caiff tair cyfrol newydd a gwrthgyferbyniol iawn eu lawnsio yn y Llyfrgell Genedlaethol, mewn tri digwyddiad yn un, yn cychwyn am 7.00 gyda lawnsio

Nos Wener

LLYFR LLOFFION CAE’R GORS gan Dewi Tomos

Caer Gors

(Llyfrau Llafar Gwlad 72, Gwasg Carreg Gwalch; £6.50) yn Arddangosfa Cam Wrth Gam, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

yna yn Y Drwm, yn cychwyn am 7.30

 

BANEROG gan Hywel Griffiths

Banerog

Pan fydd y bardd yn darllen rhai o’i gerddi newydd

(Y Lolfa, £?.95)

ac am 8.00

 

Y CRWYDRYN A MI gan Meic Stevens

Y Crwydryn a mi

Sy’n ddilyniant i Hunangofiant y Brawd Hwdini.

 

Er mwyn sicrhau mynediad i’r digwyddiadau yn Y DRWM, awgrymir eich bod yn archebu tocynnau (am-ddim) ymlaen llaw o’r Llyfrgell Genedlaethol naill ai trwy ffonio’r Siop ar 01970 632548 neu trwy ebostio: siop@llgc.org.uk

Dydd Sadwrn

Ceir llu o ddigwyddiadau ar gyfer oedolion a phlant, yn cynnwys lawnsio dros 10 o lyfrau, ynghyd â sgyrsiau a gweithgareddau. I weld yr arlwy cyffrous, edrychwch ar yr AMSERLEN

logos