Amserlen
Dydd Gwener, 1 Mai 2009
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
1.00
Lansio llyfr am Mary Lloyd Jones - Enfys o Liwiau
7.00
Llyfr Lloffion Cae'r Gors gan Dewi Thomas
7.30
Arddangosfa Cam wrth Gam gan Hywel Griffiths
8.00
Crwydryn a Mi gan Meic Stevens
Dydd Sadwrn, 2 Mai 2009
Theatr Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth
10.00
Gwobr Bedwen Lyfrau
Cyflwyno tlws cyfraniad oes i awdur sydd wedi poblogeiddio darllen yng Nghymru. Tlws y Fedwen Lyfrau yn rhoddedig gan Mary Lloyd Jones
10.15
Cerddi a Baneri: Dafydd Morgan Lewis yn holi Hywel Griffiths a Robat Gruffydd, dau fardd protest, am eu cyfrolau newydd o gerddi. (Lolfa)
11.15
Aber: Lle'n ein Llên
Catrin Beard yn yn llywio trafodaeth gyda Geraint Evans (Lolfa) Gareth F. Willliams (Gwynedd) a Meleri Wyn James (Gomer) am Aber fel lleoliad ar gyfer llenyddiaeth. Dangosir lluniau allan o Aber Keith Morris fel cefndir.
1.00 - Egwyl i ginio
Lansiad Llywelyn ein Llyw Olaf
Bydd Gwyn Thomas a Margaret Jones yn arwyddo'r gyfrol Llywelyn ein Llyw Olaf yn ystod amser cinio dydd Sadwrn y Fedwen.
Cân neu ddwy...
Meic Stevens
2.00
Dala'r Llanw: Catrin Beard, oedd yn feirniad yng nghystadleuaeth y Fedal yn Eisteddfod 2008, yn hol i Jon Gower, ddaeth yn agos i'r brig yn y gystadleuaeth honno am ei nofel Porthladdoedd. Wedi'i golygu, dyma Jon bellach yn cyhoeddi'r nofel, o dan y teitl Dala’r Llanw. (Gomer)
3.30
Llyfr y Flwyddyn Dogfael
Lyn Lewis Dafis yn cynnig ei ddewis personol o 10 cyfrol ddylai fod yn Rhestr Llyfr y Flwyddyn 2009
