Gwobr Cyfraniad Oes i Faes Llyfrau '08
Dyma'r ail flwyddyn i'r wobr hon gael ei chynnig gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Eleni fe'i cyflwynir am gyfraniad gweledol i faes llyfrau. Aelodau'r panel dyfarnu ar gyfer Gŵyl Bedwen Lyfrau 08 yw Aneurin Jones (Cadeirydd), Alun Ifans, a Bethan Gwanas a chyhoeddir enw'r enillydd am 4.30 yn Theatr y Gromlech. Bydd cyfle hefyd i anrhydeddu'r sawl a ddaeth i'r brig a chyflwyno tlws hardd o waith y crefftwr Des Davies mewn seremoni fer.
