Llyfrau dwyieithog i blant Patagonia

Mae Azul de Pol, wedi’i magu yn Nhrevelin ym Mhatagonia ac ar hyn o bryd yn fyfyrwraig yn Aberystwyth – yn rhugl yn y Gymraeg a Sbaeneg, ac wedi arfer gweithio gyda phlant. Does neb yn well ar gyfer ddarllen straeon newydd i blant bach mewn cyfres sy’n cynnwys testun yn Gymraeg a Sbaeneg mewn lansiad ar Sadwrn y Fedwen Lyfrau yn Aberystwyth (Canolfan Arad Goch, 2 Mai am 2.00 y pnawn). Bydd Azul yn perfformio dteholiad gyda’r plant ddaw yno, yn dysgu ambell air o Sbaeneg iddyn nhw ac yn dweud straeon am Batagonia.

Mae’n stori gyfarwydd y dyddiau hyn – dolen newydd arall yn cael ei chreu rhwng Cymru a’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae’r diddordeb yn yr iaith ar gynnydd yno, a channoedd o Gymry yn teithio yno bob blwyddyn gan roi bywyd newydd i’r diwylliant Cymraeg ar y paith. Mae’r holl deithio yma i Dde America – ac i rannau o Ewrop Ladin – wedi cynyddu’r diddordeb sydd gan y Cymry mewn dysgu Sbaeneg yn ogystal, gyda nifer o ddosbarthiadau nos ar hyd a lled y wlad.

Mae’n arferol gweld cyhoeddiadau dwyieithog gan weisg Ewropeaidd, ac am y tro cyntaf bydd cyfres o straeon clasurol i blant yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Sbaeneg eleni. Drwy gydweithrediad Gwasg Carreg Gwalch a chwmni cyhoeddi Gemser o Barcelona yng Nghatalwnia, cyhoeddir straeon y Tri Mochyn Bach, yr Hugan Fach Goch, Elen Benfelen a’r Tair Arth a Peter Pan mewn cyfres newydd – Cyfres Patagonia.

‘Emily Huws, yr awdures o Gaeathro ddaeth atom ni’n wreiddiol gyda’r cais,’ meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch. ‘Mae ganddi nith a nai sy’n cael eu magu ar aelwyd ddwyieithog, Cymraeg a Sbaeneg. Mae un o olygyddion y Wasg, Esyllt Nest o’r Ffôr, wedi priodi ac yn byw yn y Gaiman ac mae ganddyn nhwythau ddau o feibion – Mabon ac Idris. Roedd mentro ar gyfres fel hon yn gam naturiol ac wrth ddechrau chwilio am bartner, mi fuom yn hynod o ffodus yn taro ar y cwmni hynaws yma o Gatalwnia sy’n cynnig gwaith celf ardderchog i’r llyfrau. Fydd yr ieithoedd ddim problem i fwynhad y plant a gall y rhieni ddewis eu hiaith eu hunain wrth ddarllen y stori. Mi fyddwn yn anfon pecyn am ddim i’r Wladfa ac felly bydd pob copi a brynir yma yng Nghymru yn noddi’r Gymraeg ym Mhatagonia.’

Bu Emily Huws yn frwdfrydig ynglyn â’r gyfres o’r dechrau un ac ar drothwy gweld eu cyhoeddi, mae ei gobeithion yn gadarn: ‘Dwi’n edrych ymlaen at weld y llyfrau hyn yn cryfhau’r Gymraeg ar yr aelwyd ddwyieithog Cymraeg a Sbaeneg sydd yn fy nheulu i ac yn fwy na hynny yn gymorth i ddod â phleser rhyngwladol y straeon hyn i lawer o aelwydydd Patagonia – a hynny yng nghwmni’r Gymraeg.’

Croesawyd y fenter gan Gymdeithas Cymru Ariannin, sydd wedi cynnig cymorth gyda chyhoeddusrwydd a marchnata. Bydd y wasg yn cyflwyno 400 o’r cyfrolau am ddim i Batagonia, gyda’r gweddill ar werth yma yng Nghymru.

logos